(Scroll down for English)

AGRO
Adferiad Drwy Weithgaredd

Ar hyn o bryd, mae’r bobl mewn adferiad yr ydym yn darparu ar eu cyfer wedi ymddeol, yn rhedeg eu busnesau eu hunain, yn gyflogedig, yn wragedd tŷ, mewn prifysgolion a cholegau, yn gyn-droseddwyr ac yn gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, sydd â phroblemau alcohol, cyffuriau neu iechyd meddwl, ynghyd â’u teuluoedd. Pobl mewn adferiad neu sydd ar y ffordd i adferiad ydynt.

Cyn eu dibyniaeth roedd gan bobl fywyd a gyrfa. Rydym yn ceisio rhoi eu bywyd yn ôl iddynt a rhoi rhywbeth gwerth chweil iddynt ei wneud. Cynigir cyfle i’r aelodau wneud hyfforddiant Adferiad Smart a chofrestru ar Wefan Wired-In. Gallwn roi gwybod iddynt am CAIS, y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau, ARCH, y Tîm Iechyd Meddwl Cymuned, NACRO, SOVA a’r ARC fel y gallant gael cefnogaeth ychwanegol os oes arnynt ei hangen.

Gellir cysylltu â ni 24awr y dydd drwy ffonio neu anfon e-bost os oes angen i chi neu eich teulu siarad yn gyfrinachol â rhywun ynglŷn â’ch dibyniaeth, neu gallwn ymweld â chi yn eich cartref. Mae ein holl aelodau mewn adferiad ac yn deall beth rydych chi a’ch teuluoedd yn mynd trwyddo.

Rydym yn gobeithio cael stondinau cymunedol a fydd yn gwerthu crefftau a wnaed gan ein haelodau a chynnyrch sydd wedi’i dyfu ar ein rhandiroedd yn Ynys Môn a Gwynedd. Rydym hefyd yn gobeithio cydweithio’n glòs gyda’r gymuned leol a’r eglwysi ac ymuno mewn digwyddiadau lleol.

Mae’r cyfarfodydd wythnosol ar gyfer unigolion mewn adferiad, eu teuluoedd a’u gofalwyr oherwydd mae arnynt i gyd angen ein cefnogaeth. Trefnir teithiau cerdded, pysgota a phrosiectau garddio yn ystod yr wythnos a thros y penwythnos. Yn y dyfodol bydd gennym weithgareddau eraill i’w cynnig, e.e. Prosiect Gwiwerod Coch Ynys Môn.

Rydym yn cynnig cefnogaeth ar gyfer Adferiad, Cyfeillgarwch, Dyfalbarhad a Gobaith i’r dyfodol. A dyna beth sy’n bwysig. Bwriedir cychwyn canghennau pellach yn Ynys Môn a Gwynedd yn fuan.

Mae gennym ganghennau yn:
Amlwch, Bangor, Biwmares, Caernarfon, Caergybi a Llangefni.

 

AGRO
Recovery Through Activity

The people in recovery we are catering for at present are either retired, run their own businesses, are in employment, housewives, people in university, college, ex-offenders & ex-service personnel, with alcohol, drugs or mental health problems and their families. These are people in Recovery or on the road to Recovery.

Before addiction people had lives and careers. We are trying to give them back their lives and give them something worthwhile to do. Members are offered the chance to do Smart Recovery training & sign up to the Wired-In Website and can be signposted to CAIS, Substance Misuse Service, ARCH, Community Mental Health Team, NACRO, SOVA & ARC for extra help if they need it.

We can be contacted by phone or e-mail 24hrs a day if you or your family need to speak to someone in confidence regarding your addiction or we can visit you at home. All our members are in recovery and know what you and your family are going through.

We hope to have community stalls which will sell crafts that our members have made and produce sourced from our allotments from Anglesey & Gwynedd. We also hope to work closely with the local community and the churches and join in with local events.

The weekly meetings are for People in Recovery their families and their carers because they all need our support. We plan walks, fishing trips and gardening projects during the week and at weekends. In future we will have other activities to offer e.g. The Anglesey Red Squirrel Project.

We offer support towards Recovery, Friendship, Determination and Hope for the future. That’s what it’s all about. We are planning to have further branches on Anglesey & Gwynedd in the near future.

There are branches in:
Amlwch, Bangor, Beaumaris, Caernarfon, Holyhead, & Llangefni

 

Mudiadau Cysylltiedig | Our associates

Agro associate logos

 

Ein Noddwyr | Our Patrons

Dr David Best
Darlithydd Cyswllt mewn Astudiaethau Caethiwed i Sylweddau ym Mhrifysgol Monash
a Chanolfan Trobwynt Alcohol a Chyffuriau, Melbourne
Associate Professor of Addiction Studies at Monash University
and Turning Point Alcohol and Drug Centre in Melbourne

Wynford Ellis Owen
Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill
Chief Executive of the Welsh Council on Alcohol & Other Drugs

 

Cysylltu â ni | Contact Us...

Rachel: 07772 800284 | rachel@agro-cymru.org
Dewi: 07850 476753 | dewi@agro-cymru.org
Jenny: 07837 519412 | jenny@agro-cymru.org
Huw(cyd-sefydlydd | co-founder):
07775 872254 (9-5) | huw@agro-cymru.org
(07549 956002 | ar ôl 5 o’r gloch a thros y penwythnos | after 5 and at weekends)